Ar 6 Medi, gwahoddwyd POSW i siarad o flaen cynulleidfa o gynllunwyr, datblygwyr ac asiantiaid o bob rhan o’r DU yng Nghynhadledd Flynyddol Gogledd Iwerddon yr RTPI yn Belfast. Roedd Tom Evans, Is-gadeirydd POSW, wedi cyflwyno safbwynt Cymru i gynrychiolwyr a oedd wedi ymgynnull i drafod sut gall y system newydd yng Ngogledd Iwerddon a arweinir gan gynlluniau gyflawni ar gyfer cymunedau.


