Nodyn Cyngor Technegol Diwygiedig (TAN) 15: datblygu, llifogydd ac erydiad y glannau

Mae’r broses o gyflwyno TAN 15 newydd, a drefnwyd ar gyfer 1 Rhagfyr 2021 yn wreiddiol, wedi’i hatal gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r broses o gyflwyno TAN 15 newydd, a drefnwyd ar gyfer 1 Rhagfyr 2021 yn wreiddiol, wedi’i hatal gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn dilyn pryderon sylweddol a godwyd gan Awdurdodau Lleol, datblygwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill megis Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru ynghylch addasrwydd ac effaith rhai elfennau o’r polisi. Yng ngoleuni trafodaethau dros y 18 mis diwethaf rhwng Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru, Llywodraeth Cymru ac eraill, dechreuwyd ymgynghoriad newydd ar 23 Ionawr 2023 ynghylch newidiadau pellach i’r TAN. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau ffurfiol i Lywodraeth Cymru ynghylch y newidiadau arfaethedig yw 17 Ebrill 2023.

Rhannu hwn

Gweld un arall…

Hyfywedd Ariannol mewn

Hyfywedd Ariannol mewn

Prif amcan polisi cynllunio yng Nghymru (Polisi Cynllunio Cymru 2024 (PPW), yw sicrhau bod y system gynllunio’n cyfrannu tuag at ddarparu datblygiad cynaliadwy a’i fod yn gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Elfen hanfodol o hyn yw hwyluso datblygiadau y gellir eu darparu ac sy’n hyfyw yn ariannol ac ehangu llefydd cynaliadwy.

Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) – Cynhadledd cynllunio genedlaethol Gogledd Iwerddon

Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) – Cynhadledd cynllunio genedlaethol Gogledd Iwerddon

Cyflwynwyd safbwynt Cymru gan POSW yng nghynhadledd cynllunio genedlaethol 2023 Gogledd Iwerddon, gan gyfeirio’n benodol at oes newydd gwneud penderfyniadau cynllunio yn lleol yn y wlad honno.