Hyfywedd Ariannol mewn

Prif amcan polisi cynllunio yng Nghymru (Polisi Cynllunio Cymru 2024 (PPW), yw sicrhau bod y system gynllunio’n cyfrannu tuag at ddarparu datblygiad cynaliadwy a’i fod yn gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Elfen hanfodol o hyn yw hwyluso datblygiadau y gellir eu darparu ac sy’n hyfyw yn ariannol ac ehangu llefydd cynaliadwy.

Canllawiau Cynllunio i Gymru

Rhagair gan Gymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru

Mae Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru (POSW) yn darparu llais ar y cyd o blith awdurdodau cynllunio lleol ar hyd a lled Cymru, gan weithio’n gydweithredol ar draws sectorau a chyda’r holl bartneriaid sy’n gysylltiedig gyda’r broses ddatblygu er mwyn sicrhau ein bod yn darparu llefydd gwych yng Nghymru.

Mae POSW wedi comisiynu a chymeradwyo’r Canllawiau yma fel ffordd o sicrhau bod yna ddull clir a chyson o safbwynt y ffordd mae hyfywedd ariannol yn cael ei gymryd i ystyriaeth yn y broses gynllunio yng Nghymru, gan gynnwys sut mae Asesiadau Hyfywedd Ariannol yn cael eu defnyddio a’u cymhwyso yng nghyd-destun polisi cynllunio Cymru.

Pwrpas y Canllawiau hyn yw cefnogi’r polisi a’r canllawiau presennol gan Lywodraeth Cymru ar hyfywedd ariannol mewn cynllunio. Gall Awdurdod Cynllunio Lleol addasu ei gynnwys drwy gyfrwng polisi Cynllun Datblygu a/neu fel Canllawiau Cynllunio Atodol er mwyn ffurfio ystyriaeth ymarferol wrth benderfynu ynghylch ceisiadau cynllunio.

Fodd bynnag, mae’r ffocws yn parhau ar sicrhau bod Asesiadau Hyfywedd Ariannol sy’n cael eu hymgymryd â hwy ar y cam gwneud cynlluniau yn ddigon cydnerth; fel mai dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd asesiad hyfywedd pellach yn cael ei ymgymryd ag o ar y cam cais cynllunio.

Rhannu hwn

Gweld un arall…

Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) – Cynhadledd cynllunio genedlaethol Gogledd Iwerddon

Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) – Cynhadledd cynllunio genedlaethol Gogledd Iwerddon

Cyflwynwyd safbwynt Cymru gan POSW yng nghynhadledd cynllunio genedlaethol 2023 Gogledd Iwerddon, gan gyfeirio’n benodol at oes newydd gwneud penderfyniadau cynllunio yn lleol yn y wlad honno.

Nodyn Cyngor Technegol Diwygiedig (TAN) 15: datblygu, llifogydd ac erydiad y glannau

Nodyn Cyngor Technegol Diwygiedig (TAN) 15: datblygu, llifogydd ac erydiad y glannau

Mae’r broses o gyflwyno TAN 15 newydd, a drefnwyd ar gyfer 1 Rhagfyr 2021 yn wreiddiol, wedi’i hatal gan Lywodraeth Cymru.