Beth rydym yn ei wneud
Mae Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru yn cynrychioli llais yr holl Brif Swyddogion Cynllunio o awdurdodau cynllunio lleol ar draws Cymru. Rydym yn gweithio ar draws sectorau i fynd i’r afael â’r materion sylweddol sy’n wynebu’r system gynllunio, er mwyn cydweithio i ddod o hyd i atebion a fydd yn creu lleoedd gwych.

Ein nod yw cefnogi gwaith Awdurdodau Cynllunio Lleol drwy ymgysylltu â sefydliadau a rhanddeiliaid perthnasol, a lobïo dros newid lle bo’n angenrheidiol, gyda’r nod gyffredinol o sicrhau canlyniadau gwell o ran creu lleoedd a datblygu cynaliadwy.
Rydym hefyd yn gweithredu i rannu a hyrwyddo rhagoriaeth, arferion gorau ac atebion ar draws cynllunwyr yn y sector cyhoeddus.
Ein Partneriaid a’n Rhanddeiliaid
Mae ein partneriaid a’n rhanddeiliaid yn amrywiol ac yn cynrychioli’r grwpiau â diddordeb o’r sector cyhoeddus a’r sector preifat, gan gynnwys:
Swyddogion Llywodraeth Cymru ac Aelodau Etholedig
Comisiwn Dylunio Cymru
Y sector adeiladu a datblygu
Llywodraeth Leol
Cyfoeth Naturiol Cymru
Asiantiaid a gweithwyr proffesiynol ar draws y sector
Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol
Darparwyr cyfleustodau
Cynllunwyr ifanc

Gohebiaeth Ddiweddar
Gohebiaeth ddiweddar a anfonwyd ar ran CSCC